Mae ein fideo Nadolig diweddaraf yn ein tywys yn ôl i’r 80au i fwynhau cân Nadolig go gawslyd – mae’n cynnwys aelodau CommBrass ac M2 yn perfformio cân boblogaidd Shakin’ Stevens ‘Merry Christmas Everyone’. Mae pawb wedi gwneud ymdrech wych yn paratoi caneuon ar thema’r Nadolig ac rydym yn gobeithio y bydd yn ein helpu i godi llawer o arian i’r sefydliad a’n helusen ar gyfer 2020, Touch Trust sy’n gwneud gwaith mor arbennig drwy gydol y flwyddyn.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r perfformiad hwn – a fyddech gystal â’i hoffi, ei rannu, tanysgrifio a gwneud cyfraniad heddiw drwy ddefnyddio ein tudalen cyfraniadau ein hymgyrch Nadolig ar Virgin Money Giving.
