Y nesaf i berfformio fel rhan o’n rhaglen Nadolig yw bandiau ieuenctid M4 ac M4 sydd wedi paratoi datganiad gwych o Jingle Bells i godi calon pawb yn ystod Nadolig Haen 4 yma yng Nghymru. Da iawn i bawb a gymerodd ran – rydym mor falch o’n holl aelodau ifanc a’u hymroddiad yn parhau i chwarae drwy gydol y flwyddyn er gwaethaf yr holl heriau. A diolch yn fawr i reolwyr, arweinyddion a theuluoedd bandiau M3 ac M4 am eu holl ymdrechion.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r perfformiad hwn – a fyddech gystal â’i hoffi, ei rannu, tanysgrifio a gwneud cyfraniad heddiw drwy ddefnyddio ein tudalen cyfraniadau ein hymgyrch Nadolig ar Virgin Money Giving.
