Mor wych yw gweld M1 yn ôl gyda’i gilydd am y tro cyntaf ers mis Mawrth yn ffilmio gyda’r canwr Al Lewis.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C ar Ddydd Nadolig felly cofiwch wylio! Roedd gofyn iddyn nhw ffilmio yn yr awyr agored yn gwisgo detholiad hyfryd o hetiau a sgarffiau yn y recordiad yn Insole Court nos Wener. Roedd hi mor braf cael dod ynghyd i chwarae unwaith eto.
