Crynodeb o 2020

Wel, does dim dwywaith bod 2020 wedi bod yn eithaf gwahanol i flwyddyn band pres arferol Sefydliad Band Pres Dinas Caerdydd Melingruffydd. Dechreuodd mis Ionawr yn dda gyda phob un o’r pump o fandiau’n ymarfer gydag amrywiaeth o gerddoriaeth newydd ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod. Roedd M1, M2 ac M3 yn gweithio’n galed ar ddarnau ar gyfer y cystadlaethau rhanbarthol ac roedd CommBrass ac M4 yn bwrw ymlaen â rhai sialensiau newydd.

Ym mis Chwefror, pan ddechreuodd pencampwriaeth y chwe gwlad bu M10, y grŵp o 10 o chwaraewyr o’r Band Cymunedol ac M2 yn diddori pobl oedd yn siopa yng Nghanolfan Dewi Sant cyn pob gêm a chwaraewyd yng Nghymru. Roedd yn wych gallu chwarae mewn amgylchedd mor hapus a chyflwyno amrywiaeth o alawon Cymreig o’r traddodiadol i Tom Jones, ac wrth gwrs anthem genedlaethol y timau dan sylw.

Yn ffodus iawn ni effeithiodd y llifogydd mawr yn yr ardal ar y band, gyda di mond un o ymarferion M3 ac M4 yn cael ei ohirio oherwydd y tywydd. Roedd hi dal yn wlyb a gwyntog pan deithiodd M1 i Borthcawl i gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Adloniant Agored Cymru 2020. Yma llwyddodd y band i gipio’r ail wobr, y wobr am yr adran cyrn tenor gorau a’r band mwyaf adloniadol diolch i raglen gyffrous y cyfarwyddwr cerdd Christopher Bond.

Cynhaliwyd Cystadleuaeth Ranbarthol Cymru yn Abertawe ar y penwythnos cyntaf ym mis Mawrth gyda M2 yn perfformio “Endurance” gan Andrew Baker, gan ddod yn 5ed yn dilyn absenoldeb o ddwy flynedd o’r gystadleuaeth ranbarthol. Rhoddodd M1 berfformiad gwych o’r darn “A Tale as Yet Untold” gan Philip Sparke gan ddod yn 4ydd ac mor bryfoclyd o agos i daith i’r Royal Albert Hall!th place after a two year gap from the Welsh regionals.  M1 gave a great performance of “A Tale as Yet Untold” by Philip Sparke gaining 4th place – tantalisingly close to a trip to the Royal Albert Hall!

Yn dilyn llawer o waith caled roedd ein diwrnod agored cyntaf i bobl ifanc wedi’i drefnu ar gyfer 28 Mawrth gyda sesiwn ar gyfer dechreuwyr hyd at lefel gradd 3 yn y bore a gradd 4 ac uwch yn y prynhawn, gyda’r cyfle i gydweithio gyda chwaraewyr M1. Ond oherwydd Covid-19 bu rhaid i ni ganslo’r digwyddiad. Rydym yn gobeithio gallu cynnal y digwyddiad yn ddiweddarach yn 2021 neu ar ddechrau 2022.th March with a session for beginners to grade 3 in the morning and grade 4 and above in the afternoon, with the opportunity to work alongside M1 players.  However, plans were thwarted by Covid-19 and the event had to be cancelled.  We hope to be able to run the event later in 2021 or early 2022.

Cafodd M1 eu siomi hefyd yn dilyn canslo taith i Gernyw ar gyfer “An Afternoon at the Movies” a fyddai wedi bod yn ddigwyddiad gwych. Yn yr un modd, bu rhaid canslo Cyngerdd Gwanwyn Elusennol CommBrass – digwyddiad blynyddol a gynhelir er budd Lloches Nos Eglwysi Caerdydd y mae’r band edrych ymlaen yn arw ato bob blwyddyn – ac nid dim ond oherwydd yr holl de a chacennau sydd ar gael yn ystod yr egwyl!

Felly, gan nad oedd dod ynghyd i ymarfer yn opsiwn symudodd y bandiau ar-lein gyda CommBrass yn rhoi cynnig ar Zoom gyntaf. Unwaith y daethom i arfer â’r dechnoleg a gofyn i bawb ddiffodd y sain er mwyn i bawb allu cyd-chwarae gyda’r traciau aeth popeth yn ei flaen yn hwylus - wir i chi! Rhwng y chwarae cynhaliwyd cwisiau, bingo ac ambell i gêm o Scattergories ar gyfer y rheiny â phobl nad ydynt mor hoff o ymarferion band pres yn byw drws nesaf! Bu M4 yn ymarfer ar sail grwpiau bach yn dysgu am rythmau, cyfyngau, trawsacennu a deinamig yn ogystal â chwarae. Cynhaliodd M3 gwisiau a helfa sborion i ddal i fyny yn ystod ymarferion. Daeth M2 a CommBrass at ei gilydd i chwarae bob nos Fawrth a bu M1 yn cynnal ciwiau wythnosol yn seiliedig ar themâu yn amrywio o Blackpool, Cwpan yr FA i Eurovision.

Ym mis Mai dathlwyd diwrnod VE ledled y wlad ac roedd modd clywed aelodau’r gymdeithas yn chwarae’r Last Post yn eu strydoedd a gerddi ledled De Cymru ac mor bell ac arfordir dwyreiniol Lloegr!

Yn anffodus, doedd dim modd i ni gynnal ein cyngerdd gala flynyddol sy’n rhoi llwyfan i’r pum band yn unigol ynghyd â’r cyfle i chwarae un darn ar y cyd. Doedd dim modd i ni gynnal noson wobrwyo arferol y sefydliad ‘chwaith a dweud ffarwel, diolch a phob hwyl i aelodau’r sefydliad oedd yn mynd i brifysgolion ledled y DU neu’n gorffen eu cyfnod yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cynhaliodd M1 eu digwyddiad gwobrwyo amgen eu hunain a llwyddodd M3 i ennyn balchder pawb drwy gynnal perfformiad rhithwir cyntaf y sefydliad, yn recordio Sing gydag ychydig o gymorth gan eu cyfeillion yn M1 i nodi’r achlysur.

Mae’r sefydliad yn dewis elusen i’w chefnogi bob blwyddyn yn ogystal â chodi arian ar gyfer y band. Eleni, rydym yn cefnogi Touch Trust, sefydliad gwych yng Nghaerdydd sy’n cynnig rhaglenni symud creadigol unigryw i unigolion ag anableddau dysgu, anghenion cymhleth neu sy’n agored i niwed mewn ffyrdd eraill. Gan nad ydym wedi gallu trefnu unrhyw gyngherddau i godi arian yn ystod y flwyddyn rydym wedi bod yn canolbwyntio ar y byd digidol. Daeth M1 a rhai o staff a defnyddwyr gwasanaeth Touch Trust ynghyd ym mis Gorffennaf i gyflwyno perfformiad rhithwir o “Bring Me Sunshine”. Roedd hwn yn berfformiad gwych gan bawb a oedd yn sicr o godi gwen.

Yn dilyn y llacio ychydig ar y rheoliadau dros yr haf, cynhaliodd CommBrass ac M2 ambell i ‘ymarfer’ yn yr awyr agored gan sicrhau eu bod yn ymbellhau’n gymdeithasol, diolch i Glwb Rygbi Tongwynlais am ddefnyddio ei gae. Gyda’r tywydd o’u plaid roedd yr aelodau wrth eu bodd yn cyd-chwarae eto er eu bod nhw ychydig bach yn “rhydlyd”. Roedd hi’n amlwg bod y cyhoedd yn colli clywed cerddoriaeth fyw hefyd gan i lawer ohonyn nhw aros am ennyd i wrando a gwneud sylwadau hyfryd.

Yn yr Hydref cynhaliwyd Pencampwriaeth Bandiau Pres Ar-lein Band y Cory, gydag M1 yn dod yn 3ydd drwyddo draw, gan gipio gwobrau am y cyrn tenor gorau, yr ewffonia a’r baritonau gorau, a’r gerddoriaeth Gymreig orau. Roedd y rhaglen yn cynnwys tri threfniant gan gyfarwyddwyr cerdd y band Christopher Bond gydag alawon hyfryd megis “Anfonaf Angel” gan Robat Arwyn, “Alaw Gymreig” a’r clasur “It’s Not Unusual” gan Tom Jones.rd place overall, together with prizes for best horns, best euphoniums and baritones, and best Welsh music.  The programme featured three arrangements by M1’s musical director Christopher Bond with some beautiful melodies in ”Anfonfal/Angel” by Robot Arwyn, “Welsh Melody” and the upbeat Tom Jones classic “It’s Not Unusual”.

Wrth i’r tywydd oeri eto aeth CommBrass ac M2 yn ôl ar Zoom i roi cynnig ar gerddoriaeth newydd. Er nad oedd modd i ni fynychu’r gwasanaethau Sul y Cofio arferol roedd aelodau’r band yn falch o’r cyfle i chwarae’r Last Post mewn nifer o wasanaethau llai yn yr ardal leol. Daeth M1 ynghyd i greu Band Melingriffith yr Ail Ryfel Byd yn cynnwys aelodau presennol y band i chwarae trefniant newydd sbon gan eu cyfarwyddwr cerdd Christopher Bond mewn perfformiad rhithwir teimladwy o’r gân “We’ll Meet Again”.

Gan ddilyn rheoliadau gyda niferoedd cyfyngedig, neuaddau mawr, mesura ymbellhau cymdeithasol, thermomedr electronig, gwarchodwyr gwlybaniaeth ar glychau cyrn a ffenestri ar agor llwyddodd M2 a CommBrass i gynnal ymarferion dan do am ychydig wythnosau cyn dyfodiad cyfnod clo arall i’r rhai oedd yn awyddus i gymryd rhan. Roedd hyn ar ben y sesiynau Zoom wythnosol ar gyfer y rhai nad oedd yn bosib iddyn nhw ddod i’r ymarferion.

Roeddem yn gweld eisiau chwarae carolau yn fawr iawn y Nadolig hwn gyda dim ond llond dwrn o ddigwyddiadau Nadolig yn cynnwys pedwarawd. Ond cawsom lawer o hwyl yn paratoi saith fideo Nadolig i godi arian ar gyfer y sefydliad a Touch Trust. Roedd hyn yn cynnwys pedwar unawdydd o M1 gan gynnwys Cerys Mair Hughes yn chwarae “I Orwedd Mewn Preseb” ar y corn flugel, y prif chwaraewr cornet Becky Cale yn chwarae “Rudolph the Red Nose Reindeer”, y prif chwaraewr ewffoniwm Lizzie Connell yn chwarae “In the Bleak Midwinter” a’r unawdydd corn tenor Lowenna Taylor yn chwarae “White Christmas”. Cydweithiodd CommBrass ac M2 ar berfformiad gwych o gân Shakin’ Stevens “Merry Christmas Everyone”, ac roeddem wrth ein bodd o gael sylw ar newyddion ITV a Radio Cymru i hyrwyddo’r sefydliad a Touch Trust. Yna daeth ein haelodau talentog yn M4 ac M3 ynghyd i recordio “Jingle Bells” gan wneud gwaith arbennig o dda - gan lwyddo i wneud i bawb deimlo’n Nadoligaidd. Roedd ein fideo olaf yn cynnwys M1 a’r gantores Laura Mansell yn perfformio addasiad newydd sbon ar gyfer bandiau pres o’r gân “All I want for Christmas is You”. Roedd M1 hefyd ar S4C ar Ddydd Nadolig yn perfformio gydag Al Lewis ar ei sioe Nadolig.

Hoffem ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am roi’r cyllid i ni allu bwrw ymlaen â’r projectau fideo yma, llogi safleoedd mwy i ymarfer ynddynt a gwneud addasiadau i’r system awyru yn ystafell y band fel y gallwn ei defnyddio eto ar gyfer grwpiau bach pan fydd y rheoliadau’n caniatáu i ni wneud hynny.

Hoffem hefyd ddiolch i reolwyr ein bandiau, y cyfarwyddwyr cerdd / arweinyddion, KMJ Recordings (Keith Johnson), Neil Brownless a Siôn Roberts am eu holl waith caled yn paratoi ein perfformiadau ar-lein eleni.

Yn olaf, hoffem ddiolch o galon i Dave Howard sydd wedi chwarae rhan fawr iawn ym mywyd y sefydliad am sawl blwyddyn, yn fwyaf diweddar yn arwain CommBrass ac yn chwarae’r ewffoniwm gydag M2. Mae Dave bellach wedi gadael Caerdydd ac rydym yn mynd i weld ei eisiau yn fawr, ond yn dymuno pob hwyl iddo yn ei yrfa newydd yn gwarchod ei ŵyr ac yn chwarae gyda Towcester Studio Band. Hoffem hefyd ddiolch i’n holl gefnogwyr ledled y DU a phwy ag ŵyr - y byd!

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anarferol gyda cholledion personol i rai o aelodau’r sefydliad. Hoffem gofio’r anwyliaid hynny gan obeithio bod cerddoriaeth a theulu’r band wedi helpu mewn rhyw ffordd. Rydym yn edrych ymlaen at weld beth ddaw i ran y sefydliad yn 2021 gan obeithio y byddwn yn gallu dod ynghyd i chwarae unwaith eto yn ystod y misoedd i ddod!