M3 - Ein Perfformiad Rhithwir Cyntaf

Rydym yn falch iawn o’n band ieuenctid M3 (ac ychydig o ffrindiau) am roi perfformiad rhithwir cyntaf y sefydliad at ei gilydd - Sing!

Mae’r band wedi bod yn cadw cysylltiad gyda’i gilydd gyda chwisiau ar-lein a helfeydd sborion ond dyma’r cyfle cyntaf i chwarae y maen nhw wedi’i gael ac mae’n wych.