Mwynhewch unawdau Nadoligaidd hyfryd gan brif chwaraewyr M1

Mae M1, ein band adran pencampwriaeth, yn rhyddhau darn o gerddoriaeth Nadoligaidd bob wythnos yn cynnwys perfformiad gan brif chwaraewyr y band fel rhan o’n hymgyrch codi arian y Nadolig hwn. Mae’r perfformiad cyntaf yn cynnwys y chwaraewr corn flugel Cerys yn perfformio datganiad hyfryd o’r garol I Orwedd mewn Preseb, gyda’n cyfarwyddwr cerdd Christopher Bond yn cyfeilio iddi. Yn dilyn y perfformiad hwn ceir datganiad hwyliog o Rudolph the Red Nosed Reindeer gan ein prif chwaraewr cornet Becky. Mae’r unawd ddiweddaraf yn cynnwys ein prif chwaraewr ewffoniwm Lizzie mewn datganiad trawiadol o’r garol In the Bleak Mid Winter gyda golygfeydd eirllyd o leoliadau yng Nghaerdydd. Rydym mor falch o gael pobl mor dalentog yn ein sefydliad a gallwch wrando ar y tri pherfformiad ar Facebook a Twitter – maen nhw’n sicr o wneud i chi deimlo’n Nadoligaidd er gwaethaf y glaw!

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r perfformiad hwn – a fyddech gystal â’i hoffi, ei rannu, tanysgrifio a gwneud cyfraniad heddiw drwy ddefnyddio ein tudalen cyfraniadau ein hymgyrch Nadolig ar Virgin Money Giving.

Away in A Manager

Rudolph the red Nosed Reindeer

In the Bleak Midwinter

White Christmas